GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION
Ionawr 2026
|
YMWELIADAU Â CHYMRU |
|
|
22 Ionawr
|
Ymweliad â Chymru gan Lysgennad yr Almaen i'r DU Ymwelodd Llysgennad yr Almaen â Chymru ar gyfer rhaglen ddeuddydd. Yn ystod ei hymweliad, cynhaliodd y Llysgennad dderbyniad yng Nghaerdydd ar gyfer y gymuned Almaenig. Cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â'r Llysgennad cyn y derbyniad i drafod y berthynas barhaus â'r Almaen fel gwlad flaenoriaeth.
|
|
YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL |
|
|
06 Ionawr
|
Ymweliad y Prif Weinidog â Sbaen Ymwelodd y Prif Weinidog â Sbaen ar gyfer rhaglen tri diwrnod o gyfarfodydd. Roedd hyn yn cynnwys llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Chatalwnia ac ail-lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Gwlad y Basg. Gellir dod o hyd i'r manylion yn y datganiad ysgrifenedig.
|